Ffoniwch Ni ar 02920 799 133
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
11 22 33 44 55

Rydym yn gweithio gyda busnesau i'w helpu i recriwtio staff newydd a chael arian
ar gyfer ystod eang o raglenni datblygu, gan gynnwys Prentisiaethau,
Sgiliau Hanfodol a Hyfforddiant Rheoli.


Beth rydym yn
ei wneud

Rydym yn helpu busnesau i gau'r bwlch rhwng eu perfformiad a’u potensial drwy ystod eang o becynnau recriwtio a hyfforddiant a ariennir.

Gweithio i ni

Dros y ddegawd ddiwethaf, mae t2 wedi mynd o nerth i nerth oherwydd y ffocws ar recriwtio a chynnal y tîm gorau.

Rydym bob amser yn ehangu ystod a graddfa ein datrysiadau, ac o ganlyniad i hynny, rydym bob amser yn chwilio am dalentau newydd i ymuno â ni.

Rydym wedi ymrwymo i amrywiaeth yn y gweithle ac i gyfleoedd cyfartal i bawb, recriwtio'r bobl orau waeth beth fo'u hil, crefydd, tarddiad ethnig, lliw, cenedligrwydd, oed, cyfeiriadedd rhywiol, rhyw neu anabledd.

Mae'n rhaid i chi fod yn gymwys i weithio yn y DU ac fel rhan o'n gweithdrefnau cyfeirio, efallai y bydd angen cynnal archwiliadau o gofnodion troseddol ar gyfer rhai swyddi.

Rydym yn gwmni Buddsoddwyr Mewn Pobl ers deng mlynedd, ac rydym wedi ymrwymo i ddatblygu pob un o'n gweithwyr.

Os ydych yn dymuno ymgeisio am unrhyw un o’r swyddi isod, anfonwch eich CV gyda llythyr eglurhaol at hr@t2group.co.uk

 

Gwybodaeth i Ddysgwyr a Chyflogwyr

Hoffech chi gael gwybod mwy am ein hymagwedd tuag at Gydraddoldeb ac Amrywiaeth, ADCDF (Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang), yr Iaith Gymraeg neu am sut y gallwn fodloni eich anghenion.
Er mwyn defnyddio ein Porth Dysgwyr, Cliciwch Yma ac er mwyn defnyddio ein Porth Cyflogwyr Cliciwch Yma.


Rhannu Arfer Dda

A hoffech chi gydweithio mewn partneriaeth gyda ni i rannu arfer dda? Mae gennym ystod eang o adnoddau gwych megis y
t2 knowledgebank sydd ar gael i unrhyw gyflogwyr, dysgwyr, staff neu ddarparwyr eraill er mwyn ein galluogi i gyrraedd ein
nod i wella ansawdd Dysgu’n Seiliedig ar Waith yn y DU. Fel arall cliciwch yma a gall ein Rheolwr Partneriaeth roi
galwad yn ôl i chi i drafod sut y gallwn gydweithio.