Ffoniwch Ni ar 02920 799 133
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
11 22 33 44 55

Rydym yn gweithio gyda busnesau i'w helpu i recriwtio staff newydd a chael arian
ar gyfer ystod eang o raglenni datblygu, gan gynnwys Prentisiaethau,
Sgiliau Hanfodol a Hyfforddiant Rheoli.


Beth rydym yn
ei wneud

Rydym yn helpu busnesau i gau'r bwlch rhwng eu perfformiad a’u potensial drwy ystod eang o becynnau recriwtio a hyfforddiant a ariennir.

Eich helpu chi i gymryd rhan yn y modd y gallwn fodloni’ch anghenion

Ein nod yw sicrhau ein bod yn eich cynnwys chi yn yr hyn rydym yn ei wneud mewn unrhyw ffordd y gallwn.

Pan fyddwch yn cysylltu gyntaf gyda t2, byddwch yn cael Rheolwr Cyfrif a fydd yn gyfrifol am sicrhau eich bod yn cael profiad da gyda ni.

Bydd y Rheolwr Cyfrif gyda chi drwy gydol eich taith, p'un ai ydych chi’n gyflogwr neu'n ddysgwr gan sicrhau ein bod yn bodloni eich anghenion ac yn ceisio adborth yn gyson er mwyn i ni allu gwella'r hyn a wnawn.

Rydym yn gofyn am eich cyfraniad a’ch adborth mewn llawer o ffyrdd eraill hefyd.

Os ydych yn gyflogwr:

  • Yn y dadansoddiad cychwynnol o anghenion y sefydliad rydym yn ei gynnal gyda chi am eich cwmni
  • Ym mhob adolygiad rydym yn ei gynnal gyda'ch dysgwyr i gael adborth am eu cynnydd
  • Drwy adborth llafar rheolaidd ar y ffôn bob tro y byddwch yn siarad â'ch Rheolwr Cyfrif
  • Pob chwe mis drwy holiadur sy'n cael ei bostio at bob cyflogwr
  • Drwy ein gwefan bwrpasol ar gyfer cleientiaid, sy’n cael ei diogelu gan gyfrinair, lle mae gennym holiadur ar-lein
  • Mewn adolygiadau terfynol pan fyddwn wedi cwblhau'r dysgu

Gweld ein Strategaeth Cynnwys Cyflogwyr

Os ydych yn ddysgwr:

  • Yn y cyfarfod cychwynnol pan fyddwn yn cyfarfod â chi i drafod eich anghenion a’ch dyheadau ar gyfer dysgu
  • Mewn adolygiadau cynnydd rheolaidd drwy gydol eich dysgu i sicrhau eich bod yn gwneud cynnydd
  • Pan fydd ein tîm ansawdd yn arsylwi ein PDMs (Aseswyr) yn eich asesu i sicrhau eu bod yn gwneud gwaith da
  • Pob chwe mis drwy holiadur sy'n cael ei bostio at bob dysgwr
  • Drwy ein hadran llais y dysgwr ar bob gwefan
  • Mewn adolygiadau terfynol pan fyddwn wedi cwblhau'r dysgu

Gweld ein Strategaeth Cynnwys Dysgwyr

Mae eich barn yn bwysig iawn i ni, byddwn yn dadansoddi’r holl wybodaeth a gasglwn bob chwarter ac mae hyn yn cael ei basio’n ôl i'r tîm cyfan gan sicrhau ein bod yn gallu gwella popeth a wnawn a’n bod yn bodloni eich anghenion.

 

Gwybodaeth i Ddysgwyr a Chyflogwyr

Hoffech chi gael gwybod mwy am ein hymagwedd tuag at Gydraddoldeb ac Amrywiaeth, ADCDF (Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang), yr Iaith Gymraeg neu am sut y gallwn fodloni eich anghenion.
Er mwyn defnyddio ein Porth Dysgwyr, Cliciwch Yma ac er mwyn defnyddio ein Porth Cyflogwyr Cliciwch Yma.


Rhannu Arfer Dda

A hoffech chi gydweithio mewn partneriaeth gyda ni i rannu arfer dda? Mae gennym ystod eang o adnoddau gwych megis y
t2 knowledgebank sydd ar gael i unrhyw gyflogwyr, dysgwyr, staff neu ddarparwyr eraill er mwyn ein galluogi i gyrraedd ein
nod i wella ansawdd Dysgu’n Seiliedig ar Waith yn y DU. Fel arall cliciwch yma a gall ein Rheolwr Partneriaeth roi
galwad yn ôl i chi i drafod sut y gallwn gydweithio.