Beth rydym yn
ei wneud
Rydym yn helpu busnesau i gau'r bwlch rhwng eu perfformiad a’u potensial drwy ystod eang o becynnau recriwtio a hyfforddiant a ariennir.
Recriwtio staff newydd am ddim
Os ydych yn gobeithio recriwtio staff newydd, gallwn eich helpu i ddod o hyd i'r ymgeiswyr cywir i chi.
Bydd ein tîm recriwtio yn defnyddio manyleb swydd fanwl ac yna’n dechrau chwilio am ymgeiswyr addas.
Unwaith y byddwn wedi dod o hyd i ymgeiswyr addas, byddwn yn cyflwyno rhestr fer o ymgeiswyr i chi ar gyfer y swydd wag sydd gennych.
Rydych chi’n cyfweld yr ymgeiswyr ac yna’n os ydyn nhw’n addas, rydych chi’n cynnig swydd iddyn nhw.
Yna, rydym yn gweithio gyda chi i gynllunio rhaglen o hyfforddiant wedi’i strwythuro er mwyn bodloni eich anghenion chi a’ch anghenion nhw drwy Brentisiaeth i sicrhau eu bod yn trosglwyddo mewn i’ch busnes yn effeithiol.
Ffoniwch 02920 799133 heddiw i siarad gydag aelod o’n tîm recriwtio neu llenwch y bocs isod i wneud cais i ni’ch ffonio chi’n ôl.
Os ydych yn dymuno ymgeisio am swydd gyda t2 group, anfonwch eich CV gyda llythyr eglurhaol at hr@t2group.co.uk
Gwybodaeth i Ddysgwyr a Chyflogwyr
Hoffech chi gael gwybod mwy am ein hymagwedd tuag at Gydraddoldeb ac Amrywiaeth, ADCDF (Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang), yr Iaith Gymraeg neu am sut y gallwn fodloni eich anghenion.
Er mwyn defnyddio ein Porth Dysgwyr, Cliciwch Yma ac er mwyn defnyddio ein Porth Cyflogwyr Cliciwch Yma.
Rhannu Arfer Dda
A hoffech chi gydweithio mewn partneriaeth gyda ni i rannu arfer dda? Mae gennym ystod eang o adnoddau gwych megis y
t2 knowledgebank sydd ar gael i unrhyw gyflogwyr, dysgwyr, staff neu ddarparwyr eraill er mwyn ein galluogi i gyrraedd ein
nod i wella ansawdd Dysgu’n Seiliedig ar Waith yn y DU. Fel arall cliciwch yma a gall ein Rheolwr Partneriaeth roi
galwad yn ôl i chi i drafod sut y gallwn gydweithio.