Beth rydym yn
ei wneud
Rydym yn helpu busnesau i gau'r bwlch rhwng eu perfformiad a’u potensial drwy ystod eang o becynnau recriwtio a hyfforddiant a ariennir.
Datblygu Rheoli wedi’i ariannu
Gan fod gennym lawer o Gontractau gyda'r Llywodraeth, rydym yn gallu cynnig ystod eang o Raglenni Datblygu Rheoli ac Arweinyddiaeth wedi'u hariannu'n llwyr neu'n rhannol.
Bydd ein tîm ymroddedig o Reolwyr Cyfrifon yn cwrdd â chi i drafod eich gofynion ac wedyn yn cynnig atebion hyfforddi addas yn dibynnu ar eich anghenion penodol.
Rydym yn gallu cynnig amrywiaeth eang o hyfforddiant a chymwysterau a ariennir yn llawn ac yn rhannol yn y meysydd a ganlyn:
- Hyfforddiant Gweithredol
- Hyfforddiant Busnes
- Datblygu Arweinyddiaeth
- Datblygu Rheoli
- Arwain Tîm
Cliciwch yma i fynd i’n gwefan benodol ar gyfer Datblygu Rheoli ac Arweinyddiaeth
Am fwy o wybodaeth ffoniwch 02920 799 133 heddiw i siarad â Rheolwr Cyfrif neu llenwch y bocs isod i wneud cais i ni’ch ffonio chi’n ôl
Gwybodaeth i Ddysgwyr a Chyflogwyr
Hoffech chi gael gwybod mwy am ein hymagwedd tuag at Gydraddoldeb ac Amrywiaeth, ADCDF (Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang), yr Iaith Gymraeg neu am sut y gallwn fodloni eich anghenion.
Er mwyn defnyddio ein Porth Dysgwyr, Cliciwch Yma ac er mwyn defnyddio ein Porth Cyflogwyr Cliciwch Yma.
Rhannu Arfer Dda
A hoffech chi gydweithio mewn partneriaeth gyda ni i rannu arfer dda? Mae gennym ystod eang o adnoddau gwych megis y
t2 knowledgebank sydd ar gael i unrhyw gyflogwyr, dysgwyr, staff neu ddarparwyr eraill er mwyn ein galluogi i gyrraedd ein
nod i wella ansawdd Dysgu’n Seiliedig ar Waith yn y DU. Fel arall cliciwch yma a gall ein Rheolwr Partneriaeth roi
galwad yn ôl i chi i drafod sut y gallwn gydweithio.