Beth rydym yn
ei wneud
Rydym yn helpu busnesau i gau'r bwlch rhwng eu perfformiad a’u potensial drwy ystod eang o becynnau recriwtio a hyfforddiant a ariennir.
Cymru a'r Diwylliant Cymreig
Mae Adran Iaith Gymraeg y wefan yn adnodd ar gyfer pobl mewnol ac allanol i t2.
Nodau ac Amcanion Cymru a’r Diwylliant Cymreig
Mae t2 wedi ymrwymo i hyrwyddo Cymru, yr Iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig i staff, cyflogwyr a dysgwyr.
Ein nod yw parhau i ddadansoddi'r holl ddata adborth a chofrestru i sicrhau ein bod yn diwallu anghenion cyflogwyr a dysgwyr sy'n siarad Cymraeg. Byddwn hefyd yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid i nodi ffyrdd y gallwn wella Darpariaeth Cymraeg.
Amcan t2 yw ymateb yn gadarnhaol i’r Cyflogwyr a’r Dysgwyr hynny sy'n dymuno cynnal eu busnes drwy gyfrwng y Gymraeg ac rydym wedi ymrwymo i hynny yn y ffyrdd a ganlyn:
- Datblygu adnoddau iaith Gymraeg yn barhaus i roi cyfle i Ddysgwyr gyflawni eu rhaglenni dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
- Cydnabod a deall anghenion Dysgwyr a Chyflogwyr Dwyieithog
- Codi ymwybyddiaeth o Gymru, yr Iaith Gymraeg a’r Diwylliant Cymreig drwy bob math o ryngweithio
- Recriwtio staff sy'n siarad Cymraeg
- Polisi Iaith Gymraeg wedi’i nodi’n glir
Polisi Iaith Gymraeg
Mae’n polisi Iaith Gymraeg yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru bob blwyddyn i alinio â blaenoriaethau cyfredol, gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth o Gymru, yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yn t2.
Lawrlwythwch gopi o’n Polisi Iaith Gymraeg
Sut gaiff y polisi ei weithredu?
Bydd t2 yn datblygu ac yn gweithredu’r polisi fel y bo'n briodol drwy:
- Parhau i gynorthwyo aelodau o staff i gefnogi Dysgwyr a Chyflogwyr sy'n dewis cynnal eu busnes â ni yn Gymraeg
- Gweithio mewn partneriaeth gyda dysgwyr a chyflogwyr sy’n dymuno gwella eu hymwybyddiaeth o Gymru, yr Iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig
- Gweithio gyda dysgwyr a chyflogwyr drwy gyfrwng y Gymraeg pan fyddant wedi mynegi dymuniad i wneud hynny
- Hyrwyddo a datblygu'r Polisi Cymraeg i sicrhau ei fod yn parhau i gyd-fynd â blaenoriaethau cyfredol
- Adolygu effeithiolrwydd y polisi iaith Gymraeg yn flynyddol
Eisiau gwybod mwy am Gymru a'i diwylliant?
Oeddech chi'n gwybod bod y nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru wedi gostwng o 27,000 ers cyfrifiad 2001?
Ffynhonnell: Data cyfrifiad 2011.
I gael gwybodaeth ddiddorol arall cliciwch yma i lawrlwytho mwy o ffeithiau yn ymwneud â Chymru a’r diwylliant Cymreig.
bbc.co.uk/wales/learning/learnwelsh
funtrivia.com/en/Geography/Wales
visitwales.co.uk/things-to-do-in-wales/major-events
Cliciwch yma i weld Anthem Genedlaethol Cymru
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y rhan hon o’n gwefan, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost at: welshlanguage@t2group.co.uk
Gwybodaeth i Ddysgwyr a Chyflogwyr
Hoffech chi gael gwybod mwy am ein hymagwedd tuag at Gydraddoldeb ac Amrywiaeth, ADCDF (Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang), yr Iaith Gymraeg neu am sut y gallwn fodloni eich anghenion.
Er mwyn defnyddio ein Porth Dysgwyr, Cliciwch Yma ac er mwyn defnyddio ein Porth Cyflogwyr Cliciwch Yma.
Rhannu Arfer Dda
A hoffech chi gydweithio mewn partneriaeth gyda ni i rannu arfer dda? Mae gennym ystod eang o adnoddau gwych megis y
t2 knowledgebank sydd ar gael i unrhyw gyflogwyr, dysgwyr, staff neu ddarparwyr eraill er mwyn ein galluogi i gyrraedd ein
nod i wella ansawdd Dysgu’n Seiliedig ar Waith yn y DU. Fel arall cliciwch yma a gall ein Rheolwr Partneriaeth roi
galwad yn ôl i chi i drafod sut y gallwn gydweithio.