Beth rydym yn
ei wneud
Rydym yn helpu busnesau i gau'r bwlch rhwng eu perfformiad a’u potensial drwy ystod eang o becynnau recriwtio a hyfforddiant a ariennir.
Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF)
Mae Adran Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF) y wefan yn adnodd ar gyfer pobl mewnol ac allanol i t2. Ei nod yw rhoi manylion am yr hyn y mae ADCDF a Chynaliadwyedd yn ei olygu a'ch helpu i feddwl am eich agwedd at yr effaith rydych chi’n ei gael ar y byd.
Beth yw ADCDF?
Mae Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF) yn ymwneud â’r pethau rydym ni’n eu gwneud bob dydd. Mae’n ymwneud â materion mawr y byd - fel newid hinsawdd, masnach, adnoddau a disbyddiad amgylcheddol, hawliau dynol, gwrthdaro a democratiaeth – a sut maen nhw’n perthyn i’w gilydd ac i ninnau.
Mae'n ymwneud â sut rydym yn trin y ddaear a sut rydym yn trin ein gilydd, waeth pa mor bell rydym yn byw oddi wrth ein gilydd. Mae'n ymwneud â sut rydym yn paratoi ar gyfer y dyfodol. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae.
Neu, i’w nodi’n fwy ffurfiol, mae Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang yn ymwneud â:
Cysylltiadau rhwng cymdeithas, economi a’r amgylchedd a rhwng ein bywydau ni a bywydau pobl ledled y byd.
Anghenion a hawliau cenedlaethau cyfredol a chenedlaethau'r dyfodol
Y berthynas rhwng pŵer, adnoddau a hawliau dynol
Goblygiadau lleol a byd-eang popeth rydym ni’n ei wneud a’r camau gweithredu y gall unigolion a sefydliadau eu cymryd mewn ymateb i faterion lleol a byd-eang.
Saith o Themâu’r ADCDF
Defnyddiwyd saith cysyniad allweddol fel canllaw i ddatblygu gwerthoedd, agweddau, sgiliau, gwybodaeth a'r ddealltwriaeth sy'n ofynnol ar gyfer byw'n gynaliadwy.
- Cyfoeth a thlodi
- Hunaniaeth a diwylliant
- Dewisiadau a phenderfyniadau
- Iechyd
- Yr amgylchedd naturiol
- Newid yn yr hinsawdd
- Defnyddio a gwastraffu
Beth yw ystyr Cynaliadwyedd?
Nid oes diffiniad y cytunir arno’n gyffredinol am beth yw ystyr cynaladwyedd ac mae llawer o farn gwahanol am beth ydyw a sut y gellir ei gyflawni.
Mae'r syniad o gynaliadwyedd yn deillio o'r cysyniad gwreiddiol o ddatblygiad cynaliadwy, a ddaeth yn iaith gyffredin yn Uwchgynhadledd y Ddaear cyntaf y Byd yn Rio yn 1992.
Mae'r diffiniad gwreiddiol o ddatblygiad cynaliadwy yn cael ei ystyried fel arfer fel:
“Datblygiad” sy’n bodloni anghenion cyfredol heb gyfaddawdu ar allu cenhedloedd y dyfodol i fodloni eu hanghenion
Rydym yn gobeithio, ar ôl edrych drwy'r rhan hon o'n gwefan, y byddwch yn teimlo bod gennych well dealltwriaeth o'r hyn mae ADCDF yn ei olygu.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y rhan hon o’n gwefan, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost at: sustainability@t2group.co.uk
Arweiniad cyffredinol am Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF)
Gwybodaeth i Ddysgwyr a Chyflogwyr
Hoffech chi gael gwybod mwy am ein hymagwedd tuag at Gydraddoldeb ac Amrywiaeth, ADCDF (Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang), yr Iaith Gymraeg neu am sut y gallwn fodloni eich anghenion.
Er mwyn defnyddio ein Porth Dysgwyr, Cliciwch Yma ac er mwyn defnyddio ein Porth Cyflogwyr Cliciwch Yma.
Rhannu Arfer Dda
A hoffech chi gydweithio mewn partneriaeth gyda ni i rannu arfer dda? Mae gennym ystod eang o adnoddau gwych megis y
t2 knowledgebank sydd ar gael i unrhyw gyflogwyr, dysgwyr, staff neu ddarparwyr eraill er mwyn ein galluogi i gyrraedd ein
nod i wella ansawdd Dysgu’n Seiliedig ar Waith yn y DU. Fel arall cliciwch yma a gall ein Rheolwr Partneriaeth roi
galwad yn ôl i chi i drafod sut y gallwn gydweithio.