Ffoniwch Ni ar 02920 799 133
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
11 22 33 44 55

Rydym yn gweithio gyda busnesau i'w helpu i recriwtio staff newydd a chael arian
ar gyfer ystod eang o raglenni datblygu, gan gynnwys Prentisiaethau,
Sgiliau Hanfodol a Hyfforddiant Rheoli.


Beth rydym yn
ei wneud

Rydym yn helpu busnesau i gau'r bwlch rhwng eu perfformiad a’u potensial drwy ystod eang o becynnau recriwtio a hyfforddiant a ariennir.

Our Equality and Diversity Action PlanCliciwch yma i weld ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Adran Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y wefan yn adnodd ar gyfer pobl mewnol ac allanol i t2. Ei bwriad yw rhoi manylion am ystyr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a’ch helpu chi i feddwl am eich agwedd tuag at eraill a’ch barn am bobl rydych yn eu cwrdd. Byddem hefyd yn hoffi i chi feddwl am agwedd pobl eraill o'ch cwmpas.

Rydym hefyd yn anelu i roi gwybod i chi am yr hyn mae'r gyfraith yn ei ddweud, a'r hyn allwch chi ei wneud i helpu eich hun ac eraill a bod yn deg â phawb.

Rydym yn gobeithio, ar ôl edrych drwy'r rhan hon o'n gwefan, y byddwch yn teimlo bod gennych well dealltwriaeth o'r hyn mae Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn ei olygu.

Strategaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae t2 wedi ymrwymo i greu amgylchedd lle bo cyd-barch a chyfle cyfartal yn bodoli.

Ein nod yw creu amgylchedd lle bo pobl yn trin ei gilydd gyda chyd-barch, heb ystyried: oed, anabledd, cyfrifoldeb teuluol, statws priodasol, hil, lliw, ethnigrwydd, cenedligrwydd, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd, trawsrywedd, cyfeiriadedd rhywiol, gweithgaredd undeb llafur neu euogfarnau troseddol amherthnasol.

Lawrlwythwch gopi o’n Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Deddf Cydraddoldeb 2010

Deddf Cydraddoldeb 2010 yw'r gyfraith sy'n gwahardd triniaeth annheg ac sy’n helpu sicrhau cyfle cyfartal yn y gweithle ac yn y gymdeithas ehangach.

Beth sy'n cael ei gynnwys yn y Ddeddf Cydraddoldeb?

Mae'r ddeddf yn disodli cyfreithiau gwrthwahaniaethu blaenorol gydag un ddeddf i wneud y gyfraith yn symlach a dileu anghysondebau. Mae hyn yn gwneud y gyfraith yn haws i bobl ei deall a chydymffurfio â hi. Mae'r ddeddf hefyd wedi atgyfnerthu diogelwch mewn rhai sefyllfaoedd.

Mae'r Ddeddf yn cynnwys naw nodwedd warchodedig, na ellir eu defnyddio fel rheswm i drin pobl yn annheg. Mae gan bawb un neu fwy o'r nodweddion gwarchodedig, felly mae'r ddeddf yn amddiffyn pawb rhag triniaeth annheg. Y nodweddion gwarchodedig yw:

  • Oed
  • Anabledd
  • Ailbennu rhywedd
  • Priodas neu bartneriaeth sifil
  • Beichiogrwydd a mamolaeth
  • Hil
  • Crefydd neu gred
  • Rhyw
  • Cyfeiriadedd rhywiol

Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn nodi’r gwahanol ffyrdd y mae'n anghyfreithlon i drin rhywun, fel gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol, aflonyddu, erledigaeth a methu gwneud addasiad rhesymol i berson anabl.

Mae'r ddeddf yn gwahardd triniaeth annheg yn y gweithle, wrth ddarparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau, wrth arfer swyddogaethau cyhoeddus, wrth gael gwared ar adeiladau a’u rheoli, mewn addysg a gan gymdeithasau (megis clybiau preifat).

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y rhan hon o’n gwefan, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost at: equalityanddiversity@t2group.co.uk

Arweiniad cyffredinol ar y Ddeddf Cydraddoldeb

Y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (PDF)

Y Ddeddf Cydraddoldeb – Nodiadau Esboniadol

Y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 Arweiniad Cychwynnol i Gyflogwyr gan Acas

 

Gwybodaeth i Ddysgwyr a Chyflogwyr

Hoffech chi gael gwybod mwy am ein hymagwedd tuag at Gydraddoldeb ac Amrywiaeth, ADCDF (Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang), yr Iaith Gymraeg neu am sut y gallwn fodloni eich anghenion.
Er mwyn defnyddio ein Porth Dysgwyr, Cliciwch Yma ac er mwyn defnyddio ein Porth Cyflogwyr Cliciwch Yma.


Rhannu Arfer Dda

A hoffech chi gydweithio mewn partneriaeth gyda ni i rannu arfer dda? Mae gennym ystod eang o adnoddau gwych megis y
t2 knowledgebank sydd ar gael i unrhyw gyflogwyr, dysgwyr, staff neu ddarparwyr eraill er mwyn ein galluogi i gyrraedd ein
nod i wella ansawdd Dysgu’n Seiliedig ar Waith yn y DU. Fel arall cliciwch yma a gall ein Rheolwr Partneriaeth roi
galwad yn ôl i chi i drafod sut y gallwn gydweithio.