Beth rydym yn
ei wneud
Rydym yn helpu busnesau i gau'r bwlch rhwng eu perfformiad a’u potensial drwy ystod eang o becynnau recriwtio a hyfforddiant a ariennir.
Hyfforddiant mewn swydd wedi’i ariannu
Gan fod gennym lawer o Gontractau gyda'r Llywodraeth, rydym yn gallu cynnig ystod eang o hyfforddiant wedi'u hariannu'n llwyr neu'n rhannol, gan gynnwys Prentisiaethau a Sgiliau Hanfodol / Swyddogaethol.
Bydd ein tîm ymroddedig o Reolwyr Cyfrifon yn cwrdd â chi i drafod eich gofynion ac wedyn yn cynnig atebion hyfforddi addas yn dibynnu ar eich anghenion penodol.
Rydym yn gallu cynnig amrywiaeth eang o hyfforddiant a ariennir yn llawn ac yn rhannol yn y meysydd a ganlyn:
- Gweinyddu Busnes
- Gwasanaethau Cwsmeriaid
- TGCh
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Gwasanaethau Cefnogi Gofal Iechyd
- Gofal y Blynyddoedd Cynnar
- Adwerthu
- Gweithio mewn Warws
- Gwella llythrennedd
- Gwella rhifedd
- Arwain Tîm
- Rheoli
Am fwy o wybodaeth ffoniwch 02920 799 133 heddiw i siarad â Rheolwr Cyfrif neu llenwch y bocs isod i wneud cais i ni’ch ffonio chi’n ôl
Gwybodaeth i Ddysgwyr a Chyflogwyr
Hoffech chi gael gwybod mwy am ein hymagwedd tuag at Gydraddoldeb ac Amrywiaeth, ADCDF (Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang), yr Iaith Gymraeg neu am sut y gallwn fodloni eich anghenion.
Er mwyn defnyddio ein Porth Dysgwyr, Cliciwch Yma ac er mwyn defnyddio ein Porth Cyflogwyr Cliciwch Yma.
Rhannu Arfer Dda
A hoffech chi gydweithio mewn partneriaeth gyda ni i rannu arfer dda? Mae gennym ystod eang o adnoddau gwych megis y
t2 knowledgebank sydd ar gael i unrhyw gyflogwyr, dysgwyr, staff neu ddarparwyr eraill er mwyn ein galluogi i gyrraedd ein
nod i wella ansawdd Dysgu’n Seiliedig ar Waith yn y DU. Fel arall cliciwch yma a gall ein Rheolwr Partneriaeth roi
galwad yn ôl i chi i drafod sut y gallwn gydweithio.