Mae’r adran hon o’r wefan yn ceisio rhoi’r holl gyngor a’r arweiniad sydd ei angen ar staff, dysgwyr a phartneriaid t2 tra maen nhw’n dilyn cwrs hyfforddi gyda t2 group.
Mae hefyd yn rhoi cyfle i chi wella ein gwasanaethau.
Pwy ydym ni
Sefydlwyd t2 group yn 1996 ac mae wedi tyfu i fod yn un o’r sefydliadau hyfforddi mwyaf yn y Deyrnas Unedig.
Ar hyn o bryd rydym yn cyflogi 350 o bobl ac yn helpu 10,000 o ddysgwyr ar gyfartaledd bob blwyddyn naill ai i gael swydd gynaliadwy gyda hyfforddiant neu ddatblygu eu sgiliau wrth weithio.
Addewid ein brand
Eich helpu i gyrraedd eich nod
Ein cenhadaeth
Cau’r bwlch rhwng perfformiad a photensial
Ein gwerthoedd
- Rydym bob amser yn cyflawni’r gwaith yn iawn
- Rydym bob amser yn edrych tua’r dyfodol ac yn sicrhau ein bod yn drefnus
- Rydym bob amser yn ei gwneud yn hawdd gwneud busnes gyda ni
- Rydym bob amser yn mynd y tu hwnt i’r hyn sydd ei angen ar ein cwsmeriaid
- Mae gennym y parch mwyaf at y bobl yr ydym yn gweithio gyda nhw
- Rydym bob amser yn cymryd perchnogaeth ac os yw neb arall yn gwneud hynny fe wnawn ni
Ym mhopeth a wnawn, rydym yn ceisio sicrhau safonau uchel iawn mewn diwylliant cadarnhaol a chefnogol sy’n anelu at ragoriaeth ac yn codi disgwyliadau trwy strategaeth glir a realistig ar gyfer cynllunio a datblygu ein rhaglenni dysgu.
Felly rydym yn:
- Gosod targedau ymestynnol trwy’r sefydliad
- Hyrwyddo a gweithredu blaenoriaethau a chynlluniau cenedlaethol a lleol sy’n berthnasol i ddysgwyr, cyflogwyr a chymunedau lleol
- Defnyddio a gweithredu’n gyson ar adborth gan ddysgwyr, cyflogwyr a blaenoriaethau llywodraeth leol a chenedlaethol er mwyn cynllunio ac adolygu ein dysgu
- Sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau i gefnogi a gwella ein rhaglenni dysgu.
Mae ein hadrannau’n ceisio creu’r amodau priodol i fusnesau lwyddo, gan ddileu rhwystrau sy’n eu hatal rhag cyrraedd eu llawn botensial.
Mae ein holl raglenni dysgu’n ceisio cynyddu twf economaidd, creu mwy o arian i’r economi trwy helpu ein cleientiaid i dyfu trwy ein gwasanaethau gan arwain at greu mwy o swyddi a gwella ansawdd bywyd i bawb.