Ffoniwch Ni’n Nawr 02920 799 133

Croeso i’r Porth Cyflogwyr ar wefan t2 Group


Mae’r adran hon o’r wefan yn ceisio rhoi’r holl gyngor a’r arweiniad sydd ei angen ar staff, dysgwyr a phartneriaid t2 tra maen nhw’n dilyn cwrs hyfforddi gyda t2 group.

Mae hefyd yn rhoi cyfle i chi wella ein gwasanaethau.


Y gwelliannau diweddaraf a wnaed o ganlyniad i’ch adborth yn 2013:

  • Hyfforddiant mentora i staff sy’n gweithio gyda chyflogwyr i ddeall union anghenion y cyflogwr yn well.
  • Datblygu pecyn croeso newydd i gyflogwyr.
  • Datblygu porth cyflogwyr i wella ymwybyddiaeth o Gydraddoldeb ac Amrywiaeth, Iechyd a Diogelwch, gweithdrefnau Cwynion ac Apeliadau.
  • Tynnu mwy o sylw at ein system awtomatig i olrhain cynnydd dysgwyr
  • Datblygu cyrsiau e-ddysgu i gyflogwyr yn cynnwys Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a’r Iaith Gymraeg
  • Datblygu llwybr newydd mewn gwasanaethau Cymorth Gofal Iechyd i ddysgwyr sy’n methu â chael Fframwaith Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Ychwanegu gweithdai rheoli newid at Brentisiaethau Uwch Reolaeth ar gyfer Cyngor Sir Fynwy a Sir Gaerfyrddin.
  • Ychwanegu gweithdy newydd at y Fframwaith Proffesiynol (Prentisiaeth Uwch) mewn Gofal mewn ‘Dull sy’n canolbwyntio ar yr Unigolyn, Amrywiaeth a Chynhwysiant’. Dywedodd ESTYN yn ddiweddar mewn adolygiad thematig Mawrth 2014 ei fod yn unigryw.

Rhowch wybod i ni sut y gallwn wella ein gwasanaethau?

Yma yn t2 group rydym yn ymdrechu’n barhaus i sicrhau rhagoriaeth ym mhob agwedd o’n gwaith.

Rydym yn awyddus i wybod eich barn er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni ein hymrwymiadau i chi a’n safonau gwasanaeth fel y manylir yn ein Strategaeth Cynnwys Cyflogwyr.

Mae gan bob cyflogwr Reolwr Cyfrif penodedig.

Mae Rheolwyr Cyfrif yn cysylltu â phob cyflogwr bob mis i asesu profiad cwsmer

Crynhoir yr adborth o’r asesiad o brofiad cwsmer gan y Rheolwr Marchnata ar ffurf dadansoddiad SWOT o t2 group o bersbectif ein cyflogwyr.

Mae’r wybodaeth hon yn cael ei bwydo’n ôl i’r sefydliad fel rhan o’n proses gynllunio chwarterol ac yn ystod y gweithdai alinio/hunan asesu chwarterol. Caiff ei defnyddio hyn i ddatblygu’r cynllun strategol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Defnyddir yr wybodaeth hon i:

  • Nodi cryfderau a diffygion
  • Datrys problemau a datblygu atebion
  • Gosod targedau a chynllunio ar gyfer gwelliant parhaus

Bob chwe mis (Ebrill a Hydref) anfonir e-bost at yr holl gyflogwyr yn cynnwys Adolygiad Cyflogwr meintiol drwy Survey Monkey, darparwr arolygon ar y we.

Crynhoir yr adborth o’r adolygiad hwn gan y Rheolwr Marchnata ac fe’i hychwanegir at y dadansoddiad SWOT o t2 group o bersbectif ein cyflogwyr.

Hefyd cesglir data drwy Arolwg Bodlonrwydd Cyflogwr yr Asiantaeth Ariannu Sgiliau (SFA); caiff yr wybodaeth hon ei dadansoddi gan y Rheolwr Marchnata a’i defnyddio i feincnodi ein hunain yn erbyn darparwyr eraill.

Cliciwch yma i weld ein Dogfen Strategaeth Cynnwys Cyflogwyr

Enw * Cwmni
Eich e-bost * Rhif ffôn
Sut gallwn ni wella? *
* Meysydd mandadol