Ffoniwch Ni’n Nawr 02920 799 133

Croeso i’r Porth Cyflogwyr ar wefan t2 Group


Mae’r adran hon o’r wefan yn ceisio rhoi’r holl gyngor a’r arweiniad sydd ei angen ar staff, dysgwyr a phartneriaid t2 tra maen nhw’n dilyn cwrs hyfforddi gyda t2 group.

Mae hefyd yn rhoi cyfle i chi wella ein gwasanaethau.

Pwy ydym ni

Sefydlwyd t2 group yn 1996 ac mae wedi tyfu i fod yn un o’r sefydliadau hyfforddi mwyaf yn y Deyrnas Unedig.

Ar hyn o bryd rydym yn cyflogi 350 o bobl ac yn helpu 10,000 o ddysgwyr ar gyfartaledd bob blwyddyn naill ai i gael swydd gynaliadwy gyda hyfforddiant neu ddatblygu eu sgiliau wrth weithio.

Addewid ein brand

Eich helpu i gyrraedd eich nod

Ein cenhadaeth

Cau’r bwlch rhwng perfformiad a photensial

Ein gwerthoedd

  • Rydym bob amser yn cyflawni’r gwaith yn iawn
  • Rydym bob amser yn edrych tua’r dyfodol ac yn sicrhau ein bod yn drefnus
  • Rydym bob amser yn ei gwneud yn hawdd gwneud busnes gyda ni
  • Rydym bob amser yn mynd y tu hwnt i’r hyn sydd ei angen ar ein cwsmeriaid
  • Mae gennym y parch mwyaf at y bobl yr ydym yn gweithio gyda nhw
  • Rydym bob amser yn cymryd perchnogaeth ac os yw neb arall yn gwneud hynny fe wnawn ni

Ym mhopeth a wnawn, rydym yn ceisio sicrhau safonau uchel iawn mewn diwylliant cadarnhaol a chefnogol sy’n anelu at ragoriaeth ac yn codi disgwyliadau trwy strategaeth glir a realistig ar gyfer cynllunio a datblygu ein rhaglenni dysgu.

Felly rydym yn:

  • Gosod targedau ymestynnol trwy’r sefydliad
  • Hyrwyddo a gweithredu blaenoriaethau a chynlluniau cenedlaethol a lleol sy’n berthnasol i ddysgwyr, cyflogwyr a chymunedau lleol
  • Defnyddio a gweithredu’n gyson ar adborth gan ddysgwyr, cyflogwyr a blaenoriaethau llywodraeth leol a chenedlaethol er mwyn cynllunio ac adolygu ein dysgu
  • Sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau i gefnogi a gwella ein rhaglenni dysgu.

Mae ein hadrannau’n ceisio creu’r amodau priodol i fusnesau lwyddo, gan ddileu rhwystrau sy’n eu hatal rhag cyrraedd eu llawn botensial.

Mae ein holl raglenni dysgu’n ceisio cynyddu twf economaidd, creu mwy o arian i’r economi trwy helpu ein cleientiaid i dyfu trwy ein gwasanaethau gan arwain at greu mwy o swyddi a gwella ansawdd bywyd i bawb.