Cysalltu a ni 029 2079 9133
Mae’r Brentisiaeth mewn Iechyd (Cymorth Gofal Iechyd Clinigol) ar gyfer Uwch Gynorthwywyr Gofal Iechyd sy’n gweithio mewn ysbyty clinigol yng Nghymru, gan ddarparu cefnogaeth ddirprwyedig i unigolion o dan gyfarwyddyd ymarferydd cofrestredig. Nod y Brentisiaeth hon yw darparu’r sgiliau a’r wybodaeth sy’n ofynnol i ddod yn gymwys i gefnogi’r tîm nyrsio.
I gyflawni’r Brentisiaeth hon, rhaid i chi fod yn cael eich cyflogi gan Wasanaeth Iechyd Cymru mewn rôl sy’n darparu sgiliau clinigol. Yn benodol, dylech allu dangos eich bod yn:
Yn ystod eich cyfnod dysgu, byddwch yn adeiladu ‘pecyn’ o wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau er mwyn i chi allu cyflawni eich rôl eich hun yn effeithiol. Bydd yr hyn y byddwch yn ei ddysgu yn eich cefnogi i gymryd cyfrifoldeb am roi eich gwybodaeth, eich dealltwriaeth a’ch sgiliau ar waith, meithrin annibyniaeth, ymreolaeth a’r hyder angenrheidiol ar gyfer swyddi ar y lefel hon.
Caiff y rhaglen hon ei darparu ar sail un i un gan eich Tiwtor Gofal Iechyd Clinigol penodedig eich hun.
Byddant yn cyfarfod â chi bob mis (wyneb yn wyneb neu’n rhithwir) i ddarparu addysg a hyfforddiant i’ch helpu i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau newydd a’ch tywys drwy’r rhaglen.
Yna, byddant yn asesu eich cymhwysedd drwy arsylwi sut rydych yn defnyddio’r sgiliau newydd yn y gwaith a’ch helpu i ddatblygu portffolio o dystiolaeth i brofi eich bod wedi bodloni’r gofynion.
Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn cyflawni’r cymwysterau canlynol:
Prentisiaeth Lefel 3 mewn Iechyd (Cymorth Gofal Iechyd Clinigol)
Rydym yn gweithio gydag ystod o sefydliadau sector bach, mawr a chyhoeddus ledled yn y DU.
Gwasgwch y ddolen isod i weld un o'r hastudiaethau achos cyflogwr diweddaraf.
t2 group
Prif Swyddfa - Melrose Hall, Cypress Drive,
St Mellons, Cardiff, CF3 0EG.
029 2079 9133
Gweld i adroddiad bwlch tâl rhyw.
Angen rhoi gwybod am broblem gwarchod? Cliciwch yma.