Cysalltu a ni 029 2079 9133
Bydd Prentisiaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3 yn eich galluogi i ddatblygu a dangos eich gwybodaeth, dealltwriaeth, ymddygiad, sgiliau ac ymarfer mewn lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol. Yn benodol, byddwch yn gallu dangos eich bod yn deall ac yn arfer yr egwyddorion a'r gwerthoedd sy'n sylfaen i iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd hyn yn cynnwys dulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ymwybyddiaeth o bolisïau allweddol a sut i gymhwyso ystod o dechnegau datrys problemau.
Mae hwn yn gymhwyster cymharol newydd i unigolion sy'n gweithio yn y Sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau angenrheidiol er mwyn cyflawni'r cymhwyster hwn yn adeiladu ar gynnwys y cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2: Craidd (Oedolion) a bydd yn adlewyrchu ar draws eich rôl a’ch cyfrifoldebau uwch.
Caiff y rhaglen hon ei darparu ar sail un i un yn eich gweithle gan eich Rheolwr Datblygiad Personol penodedig eich hun.
Byddant yn cwrdd â chi bob mis (wyneb yn wyneb neu’n rhithwir) i ddarparu addysg a hyfforddiant i’ch helpu i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau newydd a'ch tywys trwy'r rhaglen.
Yna byddant yn asesu eich cymhwysedd trwy arsylwi arnoch yn rhoi'r sgiliau newydd ar waith yn y gweithle a'ch helpu i ddatblygu portffolio o dystiolaeth i brofi eich bod wedi cwrdd â gofynion y Brentisiaeth.
Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn cyflawni'r cymwysterau canlynol:
Prentisiaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3
Rydym yn gweithio gydag ystod o sefydliadau sector bach, mawr a chyhoeddus ledled yn y DU.
Gwasgwch y ddolen isod i weld un o'r hastudiaethau achos cyflogwr diweddaraf.
t2 group
Prif Swyddfa - Melrose Hall, Cypress Drive,
St Mellons, Cardiff, CF3 0EG.
029 2079 9133
Gweld i adroddiad bwlch tâl rhyw.
Angen rhoi gwybod am broblem gwarchod? Cliciwch yma.