Mae’r adran hon o’r wefan yn ceisio rhoi’r holl gyngor a’r arweiniad sydd ei angen ar staff, dysgwyr a phartneriaid t2 tra maen nhw’n dilyn cwrs hyfforddi gyda t2 group.
Mae hefyd yn rhoi cyfle i chi wella ein gwasanaethau.
Y gwelliannau diweddaraf a wnaed o ganlyniad i’ch adborth yn 2013:
- Hyfforddiant mentora i staff sy’n gweithio gyda chyflogwyr i ddeall union anghenion y cyflogwr yn well.
- Datblygu pecyn croeso newydd i gyflogwyr.
- Datblygu porth cyflogwyr i wella ymwybyddiaeth o Gydraddoldeb ac Amrywiaeth, Iechyd a Diogelwch, gweithdrefnau Cwynion ac Apeliadau.
- Tynnu mwy o sylw at ein system awtomatig i olrhain cynnydd dysgwyr
- Datblygu cyrsiau e-ddysgu i gyflogwyr yn cynnwys Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a’r Iaith Gymraeg
- Datblygu llwybr newydd mewn gwasanaethau Cymorth Gofal Iechyd i ddysgwyr sy’n methu â chael Fframwaith Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Ychwanegu gweithdai rheoli newid at Brentisiaethau Uwch Reolaeth ar gyfer Cyngor Sir Fynwy a Sir Gaerfyrddin.
- Ychwanegu gweithdy newydd at y Fframwaith Proffesiynol (Prentisiaeth Uwch) mewn Gofal mewn ‘Dull sy’n canolbwyntio ar yr Unigolyn, Amrywiaeth a Chynhwysiant’. Dywedodd ESTYN yn ddiweddar mewn adolygiad thematig Mawrth 2014 ei fod yn unigryw.
Rhowch wybod i ni sut y gallwn wella ein gwasanaethau?
Yma yn t2 group rydym yn ymdrechu’n barhaus i sicrhau rhagoriaeth ym mhob agwedd o’n gwaith.
Rydym yn awyddus i wybod eich barn er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni ein hymrwymiadau i chi a’n safonau gwasanaeth fel y manylir yn ein Strategaeth Cynnwys Cyflogwyr.
Mae gan bob cyflogwr Reolwr Cyfrif penodedig.
Mae Rheolwyr Cyfrif yn cysylltu â phob cyflogwr bob mis i asesu profiad cwsmer
Crynhoir yr adborth o’r asesiad o brofiad cwsmer gan y Rheolwr Marchnata ar ffurf dadansoddiad SWOT o t2 group o bersbectif ein cyflogwyr.
Mae’r wybodaeth hon yn cael ei bwydo’n ôl i’r sefydliad fel rhan o’n proses gynllunio chwarterol ac yn ystod y gweithdai alinio/hunan asesu chwarterol. Caiff ei defnyddio hyn i ddatblygu’r cynllun strategol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Defnyddir yr wybodaeth hon i:
- Nodi cryfderau a diffygion
- Datrys problemau a datblygu atebion
- Gosod targedau a chynllunio ar gyfer gwelliant parhaus
Bob chwe mis (Ebrill a Hydref) anfonir e-bost at yr holl gyflogwyr yn cynnwys Adolygiad Cyflogwr meintiol drwy Survey Monkey, darparwr arolygon ar y we.
Crynhoir yr adborth o’r adolygiad hwn gan y Rheolwr Marchnata ac fe’i hychwanegir at y dadansoddiad SWOT o t2 group o bersbectif ein cyflogwyr.
Hefyd cesglir data drwy Arolwg Bodlonrwydd Cyflogwr yr Asiantaeth Ariannu Sgiliau (SFA); caiff yr wybodaeth hon ei dadansoddi gan y Rheolwr Marchnata a’i defnyddio i feincnodi ein hunain yn erbyn darparwyr eraill.
Cliciwch yma i weld ein Dogfen Strategaeth Cynnwys Cyflogwyr